blwyddyn naid (blynyddoedd naid)eb

Mae blwyddyn naid yn hafal i 366 diwrnod.

Mae diwrnod ychwanegol mewn blwyddyn naid o’i gymharu â blwyddyn arferol. Hynny yw, mae 366 diwrnod mewn blwyddyn naid, nid 365 diwrnod.

29 Chwefror yw’r diwrnod ychwanegol bob tro, ac mae’n cael ei ychwanegu bob pedair blynedd. Mae diwrnod yn cael ei ychwanegu oherwydd bod y Ddaear yn cymryd 365.25 diwrnod, neu 365 diwrnod a chwarter, i fynd o amgylch yr Haul unwaith.

Mae blwyddyn naid yn digwydd bob pedair blynedd. Mae pob blwyddyn naid yn lluosrif 4. Felly, roedd 2012 yn flwyddyn naid. Bydd 2020, 2024 ac yn y blaen, yn flynyddoedd naid hefyd.