histogram (histogramau) eg

Diagram amlder sy’n defnyddio arwynebedd pob bar i gynrychioli amlder yw histogram.

Mae hyn yn golygu bod amlderau grwpiau sydd â’u lled yn anhafal yn cael eu cynrychioli’n deg.

Gadewch i ni ddefnyddio’r isod fel enghraifft.

Mae grŵp o redwyr wedi cynnal ras noddedig i godi arian at elusen. Mae’r tabl cyntaf yn dangos y dosraniad arian.

Mae angen lluniadu histogram i gynrychioli’r dosraniad hwn. I wneud hyn, rhaid ychwanegu dwy golofn at y tabl – un i nodi lled pob grŵp, a’r llall i gyfrifo’r dwysedd amlder gan ddefnyddio’r fformiwla hwn:

    Dwysedd amlder = \dfrac{\text{amlder}}{\text{lled y gr\^{w}p}}

Mae’r ail dabl yn dangos y canlyniadau.

Nawr, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i luniadu’r histogram.