lle degol (lleoedd degol) eg

Mae lle degol yn cyfeirio at safle digid i’r dde o’r pwynt degol, sef degfed, canfed a milfed, ac yn y blaen.

Mae rhifau yn aml yn cael eu mynegi i nifer penodol o leoedd degol neu ffigurau ystyrlon.

Er enghraifft, 3.246 yn gywir i 2 le degol yw 3.25. Mae hyn yn golygu bod 3 yn y safle Uned, 2 yn y safle degfed a 5 yn y safle canfed.