grwpio data be

Term ystadegol yw hwn am y broses sy’n rhoi trefn ar ddata, ac sy’n cael ei ddefnyddio wrth ddehongli data sy’n deillio o gyfrifiadau ac arsylwadau. Mae’n rhannu’r data yn ddosbarthiadau neu gategoriau gwahanol.

Gallwn feddwl am hyn yng nghyd-destun canlyniadau disgyblion mewn prawf mathemateg.

Mae’r canlyniadau i’w gweld yn y grid gyferbyn.

Gallwn ddefnyddio cyfwng dosbarth cyfartal er mwyn grwpio’r data hyn, fel sy’n cael ei ddangos yn y tabl. Mae hyn yn gwneud y data yn haws eu trin.