sylfaen sgwâr (sylfeini sgwâr) eb

Dyma sut rydym yn disgrifio gwrthrych tri dimensiwn sydd â sylfaen siâp sgwâr. Er enghraifft, mae gan giwb sylfaen sgwâr.

Rydym yn gallu disgrifio siâp tri dimensiwn yn fwy manwl drwy edrych ar siâp ei sylfaen. Er enghraifft, pyramid sylfaen sgwâr.