anhafaledd (anhafaleddau)eg
Mae anhafaledd yn cynnwys dau fynegiad wedi eu gwahanu gan un o’r symbolau hyn <, >, ≤ neu ≥.
Mae’r symbol < yn cynrychioli ‘llai na’.
Mae’r symbol > yn cynrychioli ‘mwy na’.
Mae’r symbol ≤ yn cynrychioli ‘llai na neu’n hafal i’.
Mae’r symbol ≥ yn cynrychioli ‘mwy na neu’n hafal i’.
Dyma enghraifft o anhafaledd:
-
2x + 4 < 14
Gallwn ddatrys yr anhafaledd hwn i roi x < 5. Felly, yr ateb i’r anhafaledd yw unrhyw rif sy’n llai na 5, e.e. 2, 4.9, –225.
Pryd bynnag y bydd anhafaledd yn cael ei luosi neu ei rannu â rhif negatif, rhaid cildroi yr anhafaledd. Felly, mae < yn newid i >, ac yn y blaen.