brasamcan (brasamcanion)eg

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhif, gwerth neu ganlyniad nad yw’n union gywir, ond mae’n ddigon agos at y gwir i’w ddefnyddio.

Er enghraifft, mae taith ar fws o un ochr o ddinas i’r ochr arall yn 58 munud o hyd. Gallwn ddisgrifio’r daith hon fel taith awr. Brasamcan yw hwn.

Mae’r arwydd ≈ yn cael ei ddefnyddio i ddangos dau werth sydd fwy neu lai yn gyfartal.

Er enghraifft:

    15.02 \text m \approx 15 \text m

    6.34 \times 10.1 \approx 6 = 60