onglau croesfertigol ell

Os yw dwy linell yn croesi ei gilydd, maen nhw’n ffurfio pedair ongl. Mae’r onglau sydd gyferbyn â’i gilydd yn hafal. Onglau croesfertigol yw’r enw ar yr onglau ym mhob pâr.

Yn y llun hwn, mae’r onglau a a b yn onglau croesfertigol, ac mae’r onglau x ac y yn onglau croesfertigol.