enrhifobe
Dyma’r term am gyfrifo gwerth rhywbeth.
Er enghraifft, gallwn enrhifo faint mae un llyfr yn ei gostio os yw 3 llyfr yn costio £12:
-
12 ÷ 3 = 4
Felly, mae un llyfr yn costio £4.
Gallwn hefyd enrhifo mynegiad algebraidd.
Er enghraifft, enrhifo x2 – 3 pan fo x = 2, drwy roi’r gwerth hwn ar gyfer x:
-
x2 – 3
= 22 – 3
= (2 × 2) – 3
= 4 – 3
= 1