ffracsiwn degol (ffracsiynau degol) eg

Dyma’r enw ar ffracsiwn sydd ag enwadur wedi’i seilio ar fôn 10, er enghraifft 10, 100, 1000 ac yn y blaen.

Rydym yn ysgrifennu ffracsiynau degol gyda phwynt degol.

Er enghraifft, mae \frac{42}{100} yn ffracsiwn degol a gallwn ei ddangos fel 0.42. Mae ganddo ddegolyn terfynus.