lluosydd (lluosyddion) eg
Dyma’r enw ar y rhif sy’n cael ei ddefnyddio i luosi rhif arall.
Er enghraifft, yn y sym 6 × 3, y lluosydd yw 6.
Weithiau, mae angen cynyddu rhywbeth gan ganran benodol.
Er enghraifft, i gynyddu hyd gan 33% mae angen darganfod yr hyd gwreiddiol plws 33%.
Felly, i gynyddu 140 cm gan 33%:
-
140 × 1.33 = 186.2 cm
Yma, 1.33 yw’r lluosydd, sef y rhif rydym yn lluosi’r hyd gwreiddiol ag ef.
Yn yr un modd â chynyddu, gallwn ostwng rhywbeth gan ganran benodol.
Er enghraifft, i ostwng hyd gan 33% mae angen darganfod yr hyd gwreiddiol minws 33%.
Felly, i ostwng 140 cm gan 33%:
-
140 × 0.67 = 93.8 cm
Yma, 0.67 yw’r lluosydd, sef y rhif rydym yn lluosi’r hyd gwreiddiol ag ef.