trawsfudo be

Dyma’r term am y weithred o symud holl bwyntiau siâp yr un pellter i’r un cyfeiriad. Nid yw’r siâp yn cael ei gylchdroi. Ar ôl i’r siâp gael ei symud, mae’n edrych yn union yr un peth. Yr unig beth sy’n wahanol yw ei leoliad.

Er enghraifft, mae’r diagram yn dangos siâp S yn cael ei drawsfudo gan ddefnyddio cyfarwyddiadau penodol: mae’n cael ei symud pump uned i’r dde ac yna pump uned i lawr.