cyfanrif (cyfanrifau) eg

Mae cyfanrifau yn debyg i rifau cyfan, ond mae gwahaniaeth rhyngddyn nhw.

Gall cyfanrifau fod yn:

    rhifau negatif: –1, –2, –3, –4, –5, …

    rhifau positif: 1, 2, 3, 4, 5, …

    sero: 0

Nid oes gan gyfanrifau ran ffracsiynol na degolyn dros ben.

Er enghraifft, mae 3 yn gyfanrif, ond nid yw 3 \dfrac{1}{2} na 3.5 yn gyfanrifau.