di-dor ans
Os yw set o ddata yn ddi-dor, gall unrhyw rif o fewn amrediad penodol ymddangos yn y set honno.
Mae taldra person yn enghraifft o ddata di-dor oherwydd gall fod yn unrhyw rif o fewn amrediad arferol taldra pobl.
Felly, data sy’n ganlyniad i gymryd mesuriad yw data di-dor.
Y gwrthwyneb i ddi-dor yw arwahanol.