ongl gyfagos (onglau cyfagos)eb

Os nad yw dwy ongl yn gorgyffwrdd, ond eu bod yn rhannu’r un ochr a’r un fertig, maen nhw’n onglau cyfagos.

Mae’r llun cyferbyn yn dangos hyn.

Gallwn weld bod ongl A\widehat{B}C ac ongl C\widehat{B}D yn gyfagos, oherwydd maen nhw’n rhannu’r un ochr (llinell BC) a’r un fertig (pwynt B).