lluosrif (lluosrifau) eg

Dyma ganlyniad lluosi rhif â chyfanrif.

Meddyliwch am y rhifau yn nhabl pump:

    5, 10, 15, 20, 25, …

Mae’r rhifau hyn i gyd yn cael eu galw’n lluosrifau 5.

Dyma ragor o enghreifftiau:

    • Mae 14 yn lluosrif 7, gan fod 7 × 2 = 14

    • Mae 49 yn lluosrif 7, gan fod 7 × 7 = 49

    • Mae 70 yn lluosrif 7, gan fod 7 × 10 = 70

    • Mae –21 yn lluosrif 7, gan fod 7 × –3 = –21

Felly, mae 14, 49, 70 a –21 i gyd yn lluosrifau 7.