tri dimensiwn ans

Mae pob gwrthrych sydd yn y byd yn dri dimensiwn. Hynny yw, mae ganddynt hyd, lled ac uchder neu ddyfnder.

Mae’n bosibl lleoli pwynt mewn gofod tri dimensiwn gan ddefnyddio tair echelin sy’n berpendicwlar i’w gilydd. Fel arfer, rydym yn defnyddio’r symbolau x, y a z i labelu’r echelinau, neu gallwn eu labelu yn hyd, lled ac uchder neu ddyfnder.