nawfed (nawfedau) eg

Mae dau ystyr i ‘nawfed’:

(1) Mae’n gallu golygu un rhan o naw sy’n cael ei gofnodi fel ffracsiwn, \dfrac{1}{9}.

Er enghraifft, mae’r llun cyferbyn yn dangos teisen wedi’i rhannu’n naw darn cyfartal.

Mae Susan yn cymryd un darn o’r deisen, felly mae hi’n cael \dfrac{1}{9}.

(2) Gall hefyd olygu rhif 9 mewn cyfres o rifau.

Mae 9fed yn ymddangos ar ôl yr 8fed, ond cyn y 10fed.

Er enghraifft, mae 10 person yn aros i weld y deintydd. Maen nhw wedi’u rhestru yn ôl trefn amser eu hapwyntiad.

Huw yw’r 9fed person ar y rhestr.