plws (plysau) eg
Arwydd: +
Dyma’r enw ar yr arwydd sy’n cynrychioli un o’r gweithrediadau mwyaf cyffredin, sef adio.
Mae’r arwydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddangos bod y rhif sydd ar ei ôl i’w adio at y rhif sydd o’i flaen.
Er enghraifft, rydym yn darllen 5 + 2 fel pump plws dau.