paralelogram (paralelogramau)eg

Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw paralelogram. Mae ei ochrau cyferbyn yn hafal ac yn baralel. Nid yw hyd pob ochr yn hafal. Os byddai pob ochr yn hafal, rhombws fyddai’r paralelogram.

Mae onglau cyferbyn paralelogram yn hafal. Nid oes gan baralelogram linellau cymesuredd.

Y fformiwla ar gyfer arwynebedd paralelogram yw:

    Arwynebedd = Sail × Uchder

                      A = s × u

Mae’r sail s yn cynrychioli hyd un o ochrau’r paralelogram ac mae’r uchder u yn cynrychioli’r uchder perpendicwlar rhwng y sail a’r ochr sydd gyferbyn.