munud (munudau) eg/eb
Uned sy’n mesur amser.
Mae munud yn hafal i 60 eiliad.
Mae 60 munud mewn awr.
Dewiswyd rhannu awr yn 60 munud, a munud yn 60 eiliad, gan fod llawer o ffactorau gan 60. Mae’r chwe rhif cyntaf (1, 2, 3, 4, 5, 6) yn ffactorau 60. Dyma’r rhif lleiaf lle mae hyn yn digwydd.