pentagon (pentagonau) eg
Polygon sydd â phum fertig a phum ochr yw pentagon.
Mae dau fath o bentagon:
(1) Pentagon rheolaidd
(2) Pentagon afreolaidd.
Mae gan bentagon rheolaidd a phentagon afreolaidd bum ochr, a chyfanswm onglau mewnol y ddau yw 540°. Mae onglau mewnol pentagon rheolaidd yn 108° bob tro, 540° ÷ 5 = 108°. Nid yw onglau mewnol pentagon afreolaidd i gyd yn hafal.