amser (amserau)eg
Mae amser yn mesur cyfnod di-dor.
Mae’n cael ei gofnodi mewn oriau, munudau, eiliadau, ac yn y blaen. Er enghraifft, mae 50 eiliad wedi mynd heibio ers dechrau’r arbrawf.
Hefyd, mae amser yn gallu dynodi adeg penodol o’r dydd gan ddefnyddio:
-
cloc 12 awr, er enghraifft, 2:30 p.m.
neu
-
gloc 24 awr, er enghraifft, 14:30.