ffwythiant (ffwythiannau)eg
Fel arfer, mae ffwythiant yn cysylltu dau newidyn, fel ei bod yn bosibl gweithio allan gwerth un o’r newidynnau o wybod gwerth y llall.
Mae’r hafaliad y = x² + 3 yn enghraifft o ffwythiant sy’n cysylltu’r newidynnau x ac y. O wybod gwerth x, gallwn gyfrifo gwerth y.
Er enghraifft, os yw x yn 6, yna mae:
-
y = 6² + 3
y = 36 + 3
y = 39