ceugrwm ans
Mae ‘ceugrwm’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio polygon lle mae o leiaf un ongl fewnol yn fwy na 180°.
Bydd rhai o groeslinau polygon ceugrwm yn gorwedd tu allan i’r siâp. Er enghraifft, mae croeslinau pen saeth yn croesi ar ongl sgwâr y tu allan i’r siâp.
Mae o leiaf un ongl yn pwyntio tuag i mewn.
Y gwrthwyneb i geugrwm yw amgrwm.