cyfath ans

Mae dau wrthrych yn gyfath os ydynt yn union yr un siâp ac yn union yr un maint.

Mae hyn yn golygu y bydd dau wrthrych cyfath yn ffitio’n berffaith ar ben ei gilydd, ac yn dal i fod yn gyfath os bydd un ohonynt yn cael ei drawsfudo, ei gylchdroi neu ei adlewyrchu.