cymudol ans

Deddf yw hon sy’n ymwneud â gweithredyddion mathemategol sy’n rhoi’r un ateb, hyd yn oed os yw trefn y rhifau sy’n cael eu mewnbynnu yn newid.

Mae adio a lluosi rhifau yn gymudol. Hynny yw,

    a + b = b + a
    a × b = b × a

Er enghraifft:

    2 + 3 = 3 + 2
    2 × 3 = 3 × 2

Mae’r atebion i’r uchod yr un peth.

Nid yw tynnu a rhannu rhifau yn gymudol.

Er enghraifft:

    2 – 3 ≠ 3 – 2
    2 ÷ 3 ≠ 3 ÷ 2

Nid yw’r atebion i’r uchod yr un peth, felly mae’r arwydd ≠ yn cael ei ddefnyddio i ddangos hyn.