graff llinell fertigol (graffiau llinell fertigol) eg
Mae graff llinell fertigol yn ffordd o arddangos canlyniadau data arwahanol sydd mewn tabl amlder.
Nid ydym yn defnyddio’r math hwn o graff ar gyfer data di-dor.
Mae’n debyg i siart bar, ond nid yw’r barrau mor llydan – maen nhw’n edrych fel llinellau. Hyd y llinellau sy’n dangos yr amlder.
Mae’r tabl yn dangos nifer y paneidiau o goffi mae grŵp o bobl yn eu hyfed bob dydd.
Gallwn gofnodi’r wybodaeth ar ffurf graff llinell fertigol.
Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘graff llinell fertigol’ fel ‘siart llinell bar’.