siawns (siawnsiau) eg

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio wrth sôn am y posibilrwydd y bydd rhywbeth yn digwydd.

Er enghraifft, mae cystadleuaeth snwcer yn cael ei chynnal mewn canolfan hamdden ac mae Ahmed, Matthew, Huw, a Gareth yn cymryd rhan.

Yn ôl y papur newydd lleol, mae gan Ahmed siawns o ennill; mae gan Matthew siawns dda o ennill; mae gan Huw siawns wael o ennill; nid oes gan Gareth unrhyw siawns o gwbl.