siâp cyfansawdd (siapiau cyfansawdd)eg Siâp sy’n gallu cael ei hollti yn siapiau unigol fel cylch, petryal a thriongl yw siâp cyfansawdd. Mae’r llun hwn yn dangos siâp cyfansawdd. Pe bai’r siâp yn cael ei hollti, byddai gennym betryal a thriongl.