graff bloc (graffiau bloc) eg

Mae graff bloc yn ffordd syml o ddangos gwybodaeth ystadegol.

Mae blociau yn cynrychioli meintiau neu niferoedd gwahanol. Fel arfer, mae un bloc yn cynrychioli un arsylwad.

Mae’r tabl yn dangos ym mha fis mae 20 plentyn yn dathlu eu pen-blwydd. Mae’r graff bloc yn cynrychioli’r wybodaeth hon.