plyg (plygion)eg
Mae plyg yn cael ei greu drwy blygu darn o bapur ar hyd llinell syth. Mae hyn yn golygu bod un darn o’r papur ar ben darn arall o’r papur.
Mae plygu papur yn eich helpu i ddarganfod a yw siâp yn gymesur. Os yw’r siâp wedi ei blygu a bod y rhan sydd wedi’i phlygu yn ffitio’n berffaith ar ben y llall, yna mae’r siâp yn gymesur.
Mae’n bosibl plygu’r papur yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol. Wrth wneud hyn, mae’r plyg yn hollol amlwg.