gwrthdro lluosol (gwrthdroeon lluosol) eg

Gwrthdro lluosol yw cilydd unrhyw rif, ac eithrio sero.

I ddarganfod gwrthdro lluosol rhif, rydym yn rhannu 1 â’r rhif fel hyn:

     \frac{\textmd{1}}{\textmd{y rhif}}

Er enghraifft:

    Gwrthdro lluosol 3 yw \frac{1}{3}.

Wrth luosi rhif â gwrthdro lluosol y rhif hwnnw, rydym yn cael 1.