graff trawsnewid (graffiau trawsnewid)eg
Mae graff trawsnewid yn cael ei ddefnyddio i newid rhif o un uned i uned arall. Yn aml, mae cysylltiad rhwng yr unedau sy’n cael eu trawsnewid.
Er enghraifft, rydym yn defnyddio graff trawsnewid i newid rhwng yr unedau canlynol:
-
• tymheredd mewn graddau Celsius (°C) i dymheredd mewn graddau Fahrenheit (°F)
• hyd mewn centimetrau (cm) i hyd mewn modfeddi (in neu ”)
• punnoedd (£) i Ewros (€).