modd (moddau) eg
Dyma’r enw ar y gwerth sy’n ymddangos y mwyaf aml mewn set o ddata.
Edrychwch ar y set ganlynol o ddata:
-
2, 4, 1, 4, 3, 1, 5, 4
Mae ailysgrifennu’r rhifau hyn mewn trefn esgynnol yn help:
-
1, 1, 2, 3, 4, 4, 4, 5
Gallwn weld mai 4 yw’r modd. Hwn yw’r rhif sydd â’r amlder mwyaf.