cyfesuryn (cyfesurynnau) eg

Set o rifau sy’n nodi safle pwynt ar linell, ar blân neu mewn gofod yw cyfesurynnau. Er enghraifft, mae unrhyw bwynt ar linell rif yn gyfesuryn.

Gyda dwy echelin berpendicwlar, sy’n cael eu labelu x ac y fel arfer, gallwn nodi safle mewn plân gan ddefnyddio dau rif, sef cyfesuryn-x a chyfesuryn-y. Rydym yn ysgrifennu’r cyfesurynnau mewn cromfachau, er enghraifft (4, –7).

Mae’r rhif cyntaf, sy’n mynd naill ai i’r chwith neu i’r dde, yn nodi safle’r pwynt ar yr echelin-x. Mae’r ail rif, sy’n mynd naill ai i fyny neu i lawr, yn nodi safle’r pwynt ar yr echelin-y.

Felly, gan ddechrau ar y tarddbwynt (0,0), mae’r cyfesurynnau (4, –7) yn dweud wrthon ni i symud 4 uned i’r dde, ac yna 7 uned i lawr. Y cyfesuryn ‘ar draws’ sy’n dod yn gyntaf bob tro.