cyfanswm (cyfansymiau) eg Dyma’r term am yr ateb rydym yn ei gael wrth adio nifer o rifau neu werthoedd. Er enghraifft, mae adio 10 a 7 a 23 ac 16 yn rhoi cyfanswm o 56. Yn yr un modd, mae adio 2 bêl a 6 phêl yn rhoi cyfanswm o 8 pêl.