octagon (octagonau)eg
Polygon sydd ag wyth fertig ac wyth ochr yw octagon.
Mae dau fath o octagon:
(1) Octagon rheolaidd
(2) Octagon afreolaidd.
Mae gan octagon rheolaidd ac octagon afreoliadd wyth ochr, a chyfanswm onglau mewnol y ddau yw 1080°. Mae onglau mewnol octagon rheolaidd yn 135° bob tro, 1080° ÷ 8 = 135°. Nid yw onglau mewnol octagon afreolaidd i gyd yn hafal.