polygon (polygonau)eg
Mae polygon yn siâp plân sydd wedi ei ffurfio gan ddefnyddio mwy na thair o linellau syth sy’n cysylltu â’i gilydd.
Er mwyn enwi polygon rydym yn cyfrif sawl ochr sydd ganddo. Er enghraifft, octagon yw’r enw ar bolygon sydd ag wyth ochr.
Gall polygon fod yn amgrwm neu’n geugrwm, yn rheolaidd neu’n afreolaidd.
Ar unrhyw fertig o’r polygon, cyfanswm yr ongl fewnol a’r ongl allanol yw 180°.