Cyflwyniad

Adnodd digidol cynhwysfawr sy’n cynnwys termau Cymraeg a Saesneg cyfatebol yw Mathemateg: geirfa termau. Ei gynulleidfa darged yw dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 a 4, ac mae wedi’i lunio’n benodol i’w ddefnyddio ar gyfrifiadur neu iPad. Mae’n gwbl ddwyieithog a chanddo gyfleuster i droi’n hwylus o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac i’r gwrthwyneb. Bwriad yr adnodd yw gweithredu fel cyfeirbwynt i ddysgwyr sy’n chwilio am wybodaeth bellach am dermau ym maes Mathemateg. Mae’r cyfan wedi’i egluro mewn dull clir a syml, ac mae lluniau ac animeiddiadau lliwgar wedi’u cynnwys i ategu’r diffiniadau.

 
Mae dwy ffordd o fynd ati i chwilio am derm:

  • • mynd i dudalen gartref yr adnodd, yn yr iaith o’ch dewis, a theipio’r term yn y blwch chwilio
  • • defnyddio’r wyddor ar waelod y sgrin. Er enghraifft, mae clicio ar lythyren A ar ochr Gymraeg yr adnodd yn eich arwain at restr, yn nhrefn yr wyddor, o’r termau sy’n dechrau â’r llythyren honno.

 

Ar ôl dod o hyd i’r term a darllen y diffiniad ar ei gyfer, fe welwch fod rhai geiriau wedi’u tanlinellu ac mewn lliw glas. Er enghraifft, ‘amser’, ‘hafal’, ‘eiliad’, ‘awr’, ‘rhannu’, ‘ffactorau’, ‘rhif’ a ‘lleiaf’ yn y diffiniad ar gyfer ‘munud’. Mae clicio ar bob term yn arwain at ddiffiniad, ac mae clicio ar ‘English’ yn y gornel dde ar frig y dudalen yn arwain at y term Saesneg cyfatebol. Mae clicio ar lun neu animeiddiad sy’n cyd-fynd â therm yn chwyddo ei faint o ran eglurder.

 
Ariannwyd yr adnodd hwn yn rhannol gan Lywodraeth Cymru dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC, a dau athro Mathemateg profiadol yw’r awduron.